MAPIAU NEWYDD YN CYFLWYNO ARFORDIROEDD CELTAIDD A CHESTYLL CYMRU

18 Sep 2003 03:15 PM

Mae’r mapiau, sy’n rhan o gyfres OS Travel – Tour, yn dangos yr holl wlad mewn fformat syml a hawdd ei ddarllen.

Mae’r mapiau teithio’n dangos traffyrdd, priffyrdd a ffyrdd bach, ac maent hefyd yn dwyn sylw at gyfleusterau i dwristiaid ac yn enwi lleoedd o ddiddordeb.

Rhyngddynt, mae’r dau fap – sef Gogledd a Chanolbarth Cymru a De a Chanolbarth Cymru – yn dwyn sylw at brif atyniadau fel Portmeirion, Castell Caernarfon, y Ganolfan Technoleg Amgen ger Machynlleth, yr Amgueddfa Bywyd Cymreig ger Caerdydd a Pharc Hamdden Oakwood yn Sir Benfro. Mae’r mapiau hefyd yn dwyn sylw at dri Pharc Cenedlaethol Cymru ac yn tywys pobl i ardaloedd llai poblogaidd, felly maent yn gwmni hanfodol i rai sy'n teithio yn y wlad.

Mae mapiau mwy manwl o drefi Aberystwyth, Aberhonddu, Caerdydd, Abergwaun, Trefynwy, Casnewydd, Doc Penfro, Abertawe a Dinbych-y-pysgod ar fap De a Chanolbarth Cymru – ac mae mapiau mwy manwl o drefi Aberystwyth, Bangor, Caernarfon, Caer, Caergybi, Llangollen, Llandrindod, Llandudno, Y Trallwng a Wrecsam ar fap Gogledd a Chanolbarth Cymru, felly mae’n hawdd dod o hyd i gyfleusterau mewn ardaloedd mwy trefol.

Er mwyn helpu i ddod o hyd i gyrchfannau yn gyflym, mae pob map yn cynnwys mynegai o enwau lleoedd, ac mae codau lliw i’r ffyrdd. Maent hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am gyffyrdd cyfyngedig ar draffyrdd.

Bydd unrhyw un sy’n chwilio am fannau mwy tawel yn gallu dod o hyd i Ardaloedd Harddwch Naturiol Eithriadol dynodedig, safleoedd hanesyddol, gwarchodfeydd natur, syllfannau a hyd yn oed llwybrau fferis i ynysoedd bychain a nifer o nodweddion eraill ar y mapiau.

“Rydym wedi cyhoeddi un map teithio ar gyfer Cymru gyfan yn y gorffennol, ond y tro hwn rydym yn hytrach yn darparu dwy daflen fawr sy'n gorgyffwrdd,” meddai Eddie Bulpitt, Rheolwr Brand Teithio’r Arolwg Ordnans. “Mae hynny’n golygu ein bod yn gallu rhoi mwy o fanylion a gwybodaeth ychwanegol heb ormod o annibendod ac heb greu dryswch. O’r herwydd, mae’r mapiau yn wych ar gyfer pobl nad ydynt yn defnyddio mapiau yn rheolaidd.

“Rydym hefyd wedi ychwanegu cysgodau lliwgar i gyfleu ffurfiau bryniau a mynyddoedd niferus Cymru. Ac rydym wedi cynnwys rhestrau dethol o leoedd sydd o ddiddordeb i ni.

“Mae Cymru yn tra ddiddorol. Mae yna gymaint i’w wneud yng nghefn gwlad ac yn y dref – ac mae yna wledd o atyniadau syfrdanol. Cynlluniwyd y mapiau hyn i adlewyrchu popeth y mae gan y wlad i’w gynnig.”

Mae’r mapiau ar raddfa 1:175,000, sy’n gyfartal i 1 cm i 1.75 km (oddeutu 1 fodfedd i 2¾ milltir). Gallwch brynu mapiau’r gyfres OS Travel Map – Tour am £4.99 yr un, o siopau'r stryd fawr ac o siop fapiau ar-lein yr Arolwg Ordnans, sef http://www.ordnancesurvey.co.uk.