MAP NEWYDD YN DOD Â CHYMRU HYNAFOL YN FYW
13 Jun 2005 04:15 PM
Mae’r map wedi’i fwriadu ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes cynnar Prydain – o blant ysgol hyd at archeolegwyr a thwristiaid – ac mae’n helpu i ddod â’r gorffennol yn fyw.
Mae’r wybodaeth ar y map yn cynnwys ffyrdd ac enwau lleoedd hynafol – yn ogystal â gwybodaeth gynhwysfawr a darluniau i ddangos sawl agwedd ar fywyd y gorffennol, gan gynnwys sut byddai pobl yn defnyddio’r tir a lle byddent yn byw. Mae ffotograffau hefyd, i roi’r cefndir, yn dangos llawer o’r safleoedd heddiw.
Gallwch weld nifer o safleoedd yng Nghymru ar y map: siambrau claddu Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn a Phentre Ifan ym Mhenfro, Harold’s Stones yn Sir Fynwy, mwynglawdd copr y Gogarth ger Llandudno, aneddiadau Oes yr Haearn Din Lligwy ar Ynys Môn, Tre’r Ceiri yn Llyn, a bryngaer Pen Dinas ger Aberystwyth, yr olion Rhufeinig yng Nghaerllion, Caerwent a Thomen y Mur ger Trawsfynydd. Tynnir sylw hefyd at safleoedd o’r Oesoedd Canol fel croes Caeriw yn Sir Benfro a Chlawdd Offa ar y ffin gyda Lloegr.
Fe grëwyd y map hwn ar y cyd gyda’r Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Scotland, y National Monuments Record sydd gan English Heritage, a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae’n dangos y cyfan o Brydain Fawr ar ddalen dwy ochr ac yn dangos hanes manwl Prydain Hynafol - yn cynnwys yr oes Neolithig, yr Oes Efydd, Oes yr Haearn, y cyfnod Rhufeinig a rhan gynnar yr Oesoedd Canol - ac yn gefndir i hyn oll mae dulliau mapio modern yr Arolwg Ordnans.
Yn ogystal â newid ffurf y map yma’n ddramatig, rydym wedi rhoi gwedd newydd ffres arno - a chlawr lliwgar,” meddai Emma Redgrave o’r Arolwg Ordnans. “Mae’n erfyn hynod o ddefnyddiol ar gyfer addysg - ond gallwch ei ddefnyddio mewn llawer ffordd arall hefyd. Mae gan Brydain gyfoeth o leoedd hanesyddol i ymweld â nhw - llawer ohonyn nhw o bwysigrwydd hanesyddol mawr. I dwristiaid, mae’r map yma’n rhoi goleuni pellach ar safleoedd o’r fath. Mae’n cyd-fynd yn ddelfrydol â chyfres Travel -Tour yr Arolwg Ordnans.
Yn y map Hanesyddol, mae llinell amser o ddyddiadau a digwyddiadau hanesyddol allweddol a thystiolaeth archeolegol, a gellir ei ddefnyddio fel cyfeirlyfr hanes cyflym yn ogystal ag erfyn ysgolheigaidd.
Mae’r map ac arweinlyfr ar gyfer Prydain Hynafol yn dod yn rhan o gyfres o fapiau Hanesyddol yr Arolwg Ordnans. Mae’r un arall yn y gyfres yn edrych ar Brydain Rufeinig, ac ar yr un ffurf ac arddull. Pris y ddau yw £6.25, ac maent yn dangos dosbarthiad daearyddol rhai o’r henebion pwysicaf y gellir eu gweld ym Mhrydain Fawr, ar fapio graddfa 1:625,000 yr Arolwg Ordnans.
Gellir prynu’r ddau fap oddi wrth bob prif werthwr Arolwg Ordnans neu eu harchebu’n uniongyrchol oddi wrth siop mapiau hamdden ar-lein yr Arolwg Ordnans yn www.ordnancesurvey.co.uk/hamdden
--------------------------------------------------------------------------------